Yn Grŵp NatWest, rydym yn falch o gefnogi cwsmeriaid, cymunedau a busnesau ledled Cymru drwy NatWest Cymru a’n Bwrdd Cymru penodol.
Datblygu cysylltiadau Cymreig
Mae ein cefnogaeth i Gymru yn cychwyn gyda’n pobl, fel Jessica Shipman, Cadeirydd ein Bwrdd NatWest Cymru.
Mae ein saith bwrdd, sy’n ymestyn dros genhedloedd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig, yn gweithio i gyflwyno strategaeth Grŵp NatWest ar lefel leol.
Gwasgwch ar chwarae i gael clywed mwy am waith ein bwrdd yng Nghymru gan Jess.
Pweru dyheadau Cymru o gartref newydd
NatWest Cymru yn cyhoeddi cynlluniau i adleoli ei bencadlys yng Nghymru i swyddfa arloesol newydd yng Nghaerdydd.
Twf yw’r gêm yn Llantrisant
Unbound Padel yn agor yn Llantrisant gyda chefnogaeth gwerth £225,000 gan NatWest.
Cefnogi pennod nesaf Datascope
Datascope Systems yn sicrhau cyllid o £2m gan NatWest i gefnogi twf a swyddi lleol.
Jessica Shipman
Chair
Kirstin Jenkins
Dirprwy Gadeirydd
Nathan Martin
Rheolwr Ymgysylltu’r Bwrdd
Gemma Yorke
Vanessa Allin-Jackson
Chris James
Julian Brooks
Siwan Rees
Kate Banks
Nathan Sullivan
Lindsay Deere
Laura Noble
Zoe Mott
Charlotte Gude
Adeiladu ar gyfer y dyfodol
Rydym yn fenthyciwr blaenllaw i’r sectorau seilwaith a thai – sectorau y mae eu hangen ar y Deyrnas Unedig er mwyn cael economi gryfach, fwy cysylltiedig.
Cefnogi’r arloeswyr
Rydym wedi ymrwymo i chwarae’n rhan wrth wneud y Deyrnas Unedig yn lle sy’n ymroi’n llwyr i arloesi, drwy gefnogi'r gwaith o greu a thyfu busnesau newydd deinamig a pholisïau sy’n cefnogi entrepreneuriaeth.
Helpu pobl a theuluoedd i gynilo a buddsoddi
Mae NatWest yn bartner i 20 miliwn o gwsmeriaid, ac yn helpu pobl i gynilo a buddsoddi ar gyfer eu dyfodol a meithrin hyder ariannol ledled holl genhedloedd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig.
Hyrwyddo busnesau canolig eu maint
Ni yw banc rhif un ar gyfer busnesau canolig eu maint, ac rydym yn hyrwyddo eu rôl allweddol yn yr economi a’r polisïau sydd eu hangen arnynt er mwyn gallu chwarae rôl bwysicach fyth yn nhwf y Deyrnas Unedig.
Cefnogi cenhedloedd a rhanbarthau cryfion
Drwy ein rhwydwaith ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, mae Grŵp NatWest yn ysgogi economïau rhanbarthol cryfach ac yn bartner y gall y bobl sy’n datblygu’r economïau hynny ymddiried ynom.
Cynorthwyo pobl a theuluoedd i gynilo a buddsoddi
Mae hyder ariannol yn rhan hollbwysig o seilwaith economaidd cryf, ac yn elfen sy’n cael ei diystyru’n aml. Drwy ein gweithdai Sylfeini Ariannol, rydym yn cynorthwyo pobl a theuluoedd ledled Cymru i feithrin hyder a gwytnwch ariannol, drwy eu helpu i ddatblygu’r sgiliau i reoli eu harian, cynllunio ymlaen a gwneud penderfyniadau ariannol ar sail dealltwriaeth.
Cefnogi twf busnesau Canol y Farchnad yng Nghymru
Ni yw banc rhif un y Deyrnas Unedig ar gyfer busnesau canolig eu maint, ac mae ein rheolwyr perthnasoedd sy’n gweithio’n lleol a’n harbenigwyr sectorau yn gweithio gyda busnesau ym mhob cwr o Gymru, gan sicrhau bod busnesau canol y farchnad yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn tyfu a chyrraedd eu llawn botensial fel ysgogwyr twf yn yr economi.
Darllenwch i gael gwybod sut rydym wedi cefnogi twf ein cwsmer gweithgynhyrchu sydd yng nghanol y farchnad, Wall Colmonoy Ltd.
Pweru ynni glân ar gyfer Cymru
Fel benthyciwr blaenllaw i seilwaith y Deyrnas Unedig, rydym yn cefnogi prosiectau sy’n sylfaen i fywyd pob-dydd, o ffyrdd a rheilffyrdd i ynni a ffynonellau adnewyddadwy.
Darllenwch i gael gwybod sut gwnaethom gefnogi ein cwsmer ym Mhowys, GP Biotec gyda’i ddyheadau ar gyfer ynni glân.
Wedi’n gwreiddio yng nghymunedau Cymru
Mae NatWest Cymru yn ymfalchïo yn ein cefnogaeth i fywyd, diwylliant a chymunedau Cymru. Rydym yn cefnogi digwyddiadau cenedlaethol pwysig, gan gynnwys y Sioe Amaethyddol Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol. Ac rydym yn parhau i ddatblygu ein gwasanaethau Cymraeg, fel bod rhagor o gwsmeriaid a chydweithwyr yn gallu ymwneud â ni yn eu dewis iaith.